Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ymchwiliad Bioamrywiaeth | Biodiversity Inquiry

BIO 06

Ymateb gan : Dŵr Cymru

Evidence from : Welsh Water

 

Diolch i chi am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor i fioamrywiaeth yng nghyd-destun Cynllun Nwyddau Cyhoeddus.

Daw'r sylwadau hyn gan Ddŵr Cymru Welsh Water, yr ymgymerydd dŵr a charthffosiaeth statudol sy'n darparu cyflenwadau ar gyfer dros dair miliwn o bobl yng Nghymru a rhai rhannau cyfagos o Loegr.  Rydyn ni ym mherchnogaeth Glas Cymru, sy’n gwmni un pwrpas, nid-er-rhanddeiliaid.  Rydyn ni'n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ar gyfer ein cwsmeriaid trwy ddarparu dŵr yfed ar eu cyfer a chludo eu dŵr gwastraff i ffwrdd a delio ag ef mewn ffordd gynaliadwy wedyn - gwasanaeth yw hwn sy'n amddiffyn ein hamgylchedd a'r fioamrywiaeth y mae'n ei chynnal. Mae ein gwasanaethau'n hanfodol ar gyfer datblygiad economaidd cynaliadwy Cymru hefyd.

Rydyn ni wedi gosod ein hymatebion er mwyn ateb y cwestiynau a godwyd yn yr ymgynghoriad a gobeithio y byddant yn ddefnyddiol i chi.   Croeso i chi gysylltu os oes unrhyw gwestiynau gennych.

 

Cyfarwyddwr yr Amgylchedd

Sut y gellid cymhwyso cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i nodi yn Brexit a’n Tir, er mwyn adfer bioamrywiaeth?

1.            Rydyn ni'n credu bod yna gyfle bendigedig i gynllun Nwyddau Cyhoeddus ddarparu manteision amgylcheddol, a chwarae rhan wrth liniaru dirywiad cyfredol bioamrywiaeth yng Nghymru trwy hynny.

2.            Mae Dŵr Cymru'n dibynnu ar amgylchedd dyfrol Cymru mewn dalgylchoedd perthnasol. Hi yw ffynhonnell ein cyflenwadau dŵr yfed a hi yw'r llwybr i ddychwelyd ein dŵr gwastraff ar ôl ei drin yn y pendraw. Am hynny, mae gan ein cwmni - ac, yn eu tro, ein cwsmeriaid sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol a ddarparwn - fuddiant uniongyrchol i’w amddiffyn. Mae'r cysylltiadau rhwng rheolaeth wael ar diroedd ac ansawdd dŵr gwael yn glir, ac mae tystiolaeth gadarn yn bodoli yn hynny o beth. Mae gwaith monitro Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dangos nad yw 59% o grynofeydd dŵr Cymru'n bodloni gofynion statws da Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFDS) yr UE o hyd.  Yn ôl CNC, mae’r sectorau rheoli tir amaeth a gwledig a choedwigaeth yn cyfrannu at 35% o'r diffygion hyn.

3.            Yn hynny o beth, rydyn ni'n credu bod yr achos dros annog perchnogion tir yng Nghymru i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd dyfrol yn arbennig o gymhellol.

4.            Gall amgylchedd dyfrol o safon uchel gynnal amrywiaeth iach o fflora a ffawna, felly byddai bioamrywiaeth yn fuddiolwr pwysig pe gwelid gostyngiad yn lefelau'r maetholion amaethyddol a'r plaladdwyr, neu pe bai modd lliniaru eu heffeithiau, er enghraifft. Felly, pe bai modd hwyluso gwelliannau i'r amgylchedd dyfrol trwy Gynllun Nwyddau Cyhoeddus fel bod rhagor o grynofeydd dŵr yn cyrraedd safonau 'Statws Ecolegol Da' y mae'r Gyfarwyddeb yn eu mynnu, byddem yn gweld adferiad clir a mesuradwy o ran bioamrywiaeth.

5.            Rydyn ni'n credu taw'r allwedd i adfer bioamrywiaeth yw mynd i'r afael ag ansawdd a chysylltedd y cynefinoedd y mae bioamrywiaeth yn dibynnu arnynt. Am y rheswm hwn, awgrymodd ein hymateb i ymgynghoriad ‘Brexit a'n Tir’ Llywodraeth Cymru y dylai'r categori ‘Cynefinoedd ac ecosystemau gwydn' fod ar gael i’r holl reolwyr tiroedd drwyddi draw.  Fodd bynnag, mae angen ystyried targedu gofodol yn achos rhai gweithgareddau Nwyddau Cyhoeddus er mwyn amddiffyn a chyfoethogi bioamrywiaeth. Ni fyddai'n werth ariannu rhai nwyddau cyhoeddus oni bai bod pob rheolwr tir mewn dalgylch (neu'r mwyafrif ohonynt o leiaf) yn gefnogol i’r peth.  Ymhlith yr enghreifftiau o hyn mae ymdrechion i ddileu rhywogaethau estron goresgynnol, neu leihau lefelau maetholion a phlaladdwyr mewn dŵr.

6.            Gallai Datganiadau Ardal CNC (sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016) sy'n cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd, ddarparu arwyddbost defnyddiol i'r nwyddau cyhoeddus mwyaf perthnasol mewn lleoliadau penodol. Wrth ystyried mecanweithiau darparu, dylid symud i ffwrdd oddi wrth y dull gweithredu 'yr un peth i bawb' a gynigiwyd trwy gynlluniau amaeth-amgylcheddol blaenorol. Er mwyn gwireddu manteision i fioamrywiaeth, mae angen i reolwyr tiroedd, rheoleiddwyr a chyrff statudol fel y Parciau Cenedlaethol arddel dull gweithredu penodol a chydlynol ar lefelau lleol a rhanbarthol. Wrth galon y dull gweithredu yma mae'r angen am i gynghorwyr a swyddogion prosiect hyfforddedig  gynnig cyngor arbenigol ar ddylunio cynlluniau, a rhoi adborth (cyn ac) wrth ddarparu cynlluniau.  Er mwyn i gynllun Nwyddau Cyhoeddus lwyddo, dylai fod ffocws ar wireddu'r deilliannau gorau posibl ar gyfer rheolwyr tir ac ar gyfer bioamrywiaeth fel ei gilydd, gan dargedu cyllid tuag at reolwyr tiroedd 'gweithgar' sy'n gallu bodloni gofynion rheoliadol sylfaenol y cynllun.

Sut y gellid cymhwyso amryw bolisïau a deddfau cyfredol Llywodraeth Cymru ym maes adfer bioamrywiaeth at y gwaith o lunio a gweithredu’r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig?

7.            Rydyn ni'n credu bod polisïau a deddfwriaeth cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer bioamrywiaeth, fel Cynllun Adfer Natur Cymru a'r ddyletswydd bioamrywiaeth a bennwyd yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) yn addas at eu pwrpas ar y cyfan.  Mae'r ddyletswydd bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus, y gallai llawer ohonynt fod yn rheolwyr tir, sy’n mynnu eu bod yn cynnal ac yn  gwella bioamrywiaeth wrth ymarfer eu swyddogaethau, yn arbennig o berthnasol. 

8.            Cyhoeddodd Dŵr Cymru ein Cynllun Bioamrywiaeth statudol, ‘Neilltuo amser ar gyfer natur’ ym mis Gorffennaf 2017.  Mae ein Cynllun yn disgrifio sut mae ein busnes yn rhyngweithio â byd natur. Mae'n disgrifio beth rydyn ni eisoes yn ei wneud ar draws y busnes i gynorthwyo natur a bioamrywiaeth, a byddwn ni'n adrodd ar lwyddiant y cynllun hwn cyn diwedd 2019.   

9.            Mae'n amlwg y dylai unrhyw gynllun Nwyddau Cyhoeddus ddilyn yr egwyddorion rheoli cynaliadwy ar gyfer adnoddau naturiol a bennwyd yn adran 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

10.         Mae gennym rai pryderon am sut y gallai polisïau a deddfwriaeth arall effeithio ar effeithiolrwydd y cynllun Nwyddau Cyhoeddus. Un o'r prif bryderon yn hynny o beth yw pwysigrwydd 'ychwanegoldeb' o fewn y cynigion.  Rydyn ni'n cymeradwyo cynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno meini prawf sy'n mynnu bod perchnogion tir yn bodloni rhai gofynion rheoliadol sylfaenol cyn y gallant fod yn gymwys i gael unrhyw gyllid cyhoeddus.  Dylai'r gofyniad hanfodol yma am 'sail reoliadol' fod yn gymwys ar gyfer unrhyw gymorth o dan y Cynllun Rheoli Tiroedd, nid dim ond y llinyn Nwyddau Cyhoeddus.

11.         Rhaid i gynlluniau cyhoeddus beidio â thalu llygrwyr i beidio â llygru. Yn hytrach, dylent wobrwyo arferion rheoli tir sy'n bwydo'r deilliannau rydym am eu gweld, fel 'Statws Ecolegol Da' o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Rhaid rhoi sail reoliadol ar waith er mwyn i’r cynllun fod yn hygred, (a bydd angen adnoddau digonol hefyd) ac yn ogystal, rhaid iddo gynorthwyo datblygiad gwasanaethau ecosystem sy’n seiliedig ar y farchnad.  Wedyn gallai'r rhain ategu a chyfoethogi unrhyw daliadau o dan y dull gweithredu 'nwyddau cyhoeddus er budd cyhoeddus'. Yn ogystal ag ystyried sut y gallai elfennau o gynllun o'r fath a ariennir yn gyhoeddus weithio, byddem yn annog y Llywodraeth i ystyried sut y gallent gynorthwyo sectorau eraill, fel y rhai sydd â buddiant ym meysydd dŵr, twristiaeth a llifogydd i weithio gyda'r Llywodraeth ac ategu'r broses gyfan. Rydyn ni'n credu y byddai cydweithio i lunio’r cynllun yn gyson â'r pum dull o weithio a bennwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd.

12.         Cyn cyflwyno'r Rhaglen, hoffem weld cyflwyniad y system o "fesurau sylfaenol" a gynigiodd Llywodraeth Cymru yn ei bapur ymgynghori yn 2017 “Bwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy” ac a archwiliwyd ym mhennod 7 o ‘Brexit a'n Tir’.  Dylai cymhwyster am gymorth o dan y Rhaglen Rheoli Tiroedd fynnu cydymffurfiaeth â'r mesurau sylfaenol perthnasol hefyd. 

13.         Er mwyn gwneud y dull gweithredu yma'n fwy deniadol, rydyn ni'n awgrymu y gallai fod yna fantais i ffermwyr sy'n bodloni'r holl ofynion perthnasol fod yn gymwys am lefel gymedrol o gymorth Nwyddau Cyhoeddus.

 

14.         Bydd angen gofalu rhag dwyn goblygiadau anfwriadol hefyd. Yn benodol, mae hi'n bwysig gofalu rhag cymell gweithgarwch o dan y cynllun gwytnwch economaidd sy'n tanseilio buddsoddiad mewn nwyddau cyhoeddus. Er enghraifft, gallai gwella cynhyrchiant arwain at ddwysâd, gan achosi risgiau ychwanegol i ansawdd dŵr yn sgil defnydd mwy o blaladdwyr a llwytho maetholion.  Mae yna risgiau tebyg sy’n gysylltiedig ag arallgyfeirio hefyd.  Byddai cymhwyso ychwaneged - gan gydymffurfio â’r gofynion amgylcheddol sylfaenol - at yr elfen Gwytnwch Economaidd, yn hytrach na dim ond ategu'r gangen Nwyddau Cyhoeddus, yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at liniaru'r risgiau hyn.   

Pa wersi y gellir eu dysgu o’r Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMGG) i sicrhau bod cynlluniau i helpu i adfer bioamrywiaeth yn cael eu monitro a’u gwerthuso’n effeithiol? Ym mha ffordd y dylai’r Rhaglen Monitro a Modelu ar gyfer yr Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP) newydd gael ei llunio a’i gweithredu’n effeithiol at y diben hwn?

15.         Er bod ein profiad uniongyrchol o Glastir yn gyfyngedig, rydyn ni'n credu y bydd angen i waith monitro fod yn gydran hanfodol o unrhyw gynllun Nwyddau Cyhoeddus.

16.         Gall monitro'r allbynnau sylfaenol ar gyfer cynefinoedd ac ecosystemau gwydn fod yn gymharol syml.  Mae mesur nifer y coed a blannwyd neu'r arwynebedd glaswelltir a reolir yn ddigon syml, ond mae cyfrifo'r manteision i fioamrywiaeth sy'n deillio o hynny'n anos o lawer; yn enwedig o ystyried yr amserlenni hir a'r anhawster cynhenid sydd ynghlwm wrth fesur ecoleg.

17.         Mae hyn yn amlygu'r angen am wybodaeth a chyngor o ansawdd uchel wrth gynllunio ar gyfer gwella bioamrywiaeth. Mae lleoliad a chysylltedd y safleoedd a ddewisir ar gyfer gwella bioamrywiaeth yn hanfodol i'w llwyddiant tebygol, a bydd dethol safleoedd o'r fath yn galw am gyngor arbenigol yn gynnar yn y broses.  Mae pennu gwaelodlin cyn y gellir cyflwyno unrhyw Nwyddau Cyhoeddus yn bwysig yn hynny o beth - rhaid i'r dewisiadau a'r blaenoriaethau targed fod yn gywir, ac er mwyn gwerthuso unrhyw lwyddiant, mae angen cael darlun clir o'r man cychwyn.

18.         Eto, rydyn ni'n gobeithio y bydd y Datganiadau Ardal sy'n cael eu paratoi gan Gyfoeth Naturiol Cymru o gymorth wrth ddethol safleoedd priodol; ond byddem yn argymell adroddiad diweddar yr RSPB a'r Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy “Biodiversity and the area-based approach in Wales”[1] fel canllaw defnyddiol i gynllunio gofodol  ar gyfer bioamrywiaeth.

 



[1] http://orca.cf.ac.uk/113208/